Teyrnas Powys

Arfbais Teyrnas Powys
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Roedd Powys yn un o deyrnasoedd Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Hyd 1212 yr oedd prif lys ei brenhinoedd a thywysogion ym Mathrafal, yna fe'i symudwyd i'r Trallwng.

Oherwydd ei safle yn nwyrain Cymru, dioddefodd Powys fwy oherwydd ymosodiadau y Saeson na theyrnasoedd eraill megis Gwynedd a Deheubarth.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne